Cwynodd Mr C ar ran ei wraig, Mrs C, am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd wrth bractis deintyddol yn ardal y Bwrdd Iechyd. Cwynodd Mr C fod y driniaeth ddeintyddol ar gyfer dant blaen toredig a choron Mrs C yn achos brys ac na ddylid bod wedi delio ag ef fel gofal preifat. Yn benodol, ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y penderfyniad i beidio â chynnig apwyntiad GIG amserol yn briodol ar 5 Chwefror 2024. Ystyriodd hefyd a oedd y penderfyniad i wrthod unrhyw ofal deintyddol pellach i Mr a Mrs C ar y GIG yn briodol.
Canfu’r Ombwdsmon fod y penderfyniad i beidio â chynnig apwyntiad GIG brys ar 5 Chwefror 2024 wedi’i wneud yn briodol oherwydd nad oedd angen gofal na thriniaeth frys oherwydd y symptomau a gyflwynwyd. Roedd cynnig apwyntiad GIG arferol ym mis Ebrill yn dderbyniol. Canfu hefyd nad oedd unrhyw gamweinyddu o ran penderfyniad y Practis i wrthod unrhyw ofal deintyddol pellach i Mr and Mrs C, oherwydd y dirywiad yn y berthynas. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y naill gŵyn na’r llall.