Dyddiad yr Adroddiad

19/02/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref y Trallwng

Pwnc

Gwrthrychedd a phriodoldeb & hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202202515/202208668

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon 2 gŵyn bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref y Trallwng (“y Cyngor Tref”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.

Honnwyd gan Aelod arall o Gyngor y Dref (y gŵyn gyntaf) fod yr Aelod wedi ymddwyn mewn ffordd a oedd yn fwlio ac yn amharchus tuag at eraill ac wedi methu â dangos arweinyddiaeth gadarnhaol, a adlewyrchodd yn wael arno ef a Chyngor y Dref.

Honnwyd gan Gyn-Glerc y Cyngor Tref (yr ail gŵyn) fod yr Aelod wedi cael ei atalo’i swydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru (“CBC”) am ymddygiad amhriodol tuag at fenyw, a bod y cyhoeddusrwydd dilynol am y mater wedi dwyn anfri ar ei swydd fel aelod, a’r Cyngor Tref.

Ystyriodd yr ymchwiliadau a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:

  • 4(b) – Dylech ddangos parch ac ystyriaeth i eraill.
  • 4(c) – Ni ddylech ddefnyddio ymddygiad bwlio nac aflonyddu ar unrhyw berson.
  • 6(1)(a) – Ni ddylech ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eich swydd neu’ch awdurdod.

O ran y gŵyn gyntaf, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd ymddygiad yr Aelod yn cyrraedd y safonau a ddisgwylir gan aelodau etholedig ac yn awgrymu torri paragraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

O ran yr ail gŵyn, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod ymgysylltiad yr Aelod â’r wasg a’r cyhoeddusrwydd o’i gwmpas yn debygol o fod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel aelod a’i awdurdod ac felly’n awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd y dylid cyfeirio ein hadroddiad ar ein hymchwiliadau at Swyddog Monitro Cyngor Sir Powys i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Canfu’r Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 4(b), 4(c) a 6(1)(a) o’r Cod ynghylch y gŵyn gyntaf a pharagraff 6(1)(a) ynghylch yr ail gŵyn. Ei sancsiwn oedd ceryddu’r Aelod.

Mae’r penderfyniad hwn yn destun apêl.