Cwynodd Mrs A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb – nac unrhyw ddiweddariadau o sylwedd – i’r gŵyn ynglŷn â gofal ei diweddar ŵr, er iddi gyflwyno’r gŵyn dros flwyddyn yn ôl.
Canfu’r Ombwdsmon fod yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn yn ormodol a’i fod wedi ychwanegu at y trallod a deimlai Mrs A ar ôl colli ei gŵr. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflwyno llythyr yn rhoi ymateb llawn i’r gŵyn, ymddiheuriad am yr oedi a £250 o iawndal i gydnabod ei fod wedi ymdrin â’r gŵyn yn wael, cyn pen 20 diwrnod gwaith. Teimlai’r Ombwdsmon fod hyn yn datrys y gŵyn ac nad oedd angen ymchwiliad.