Dyddiad yr Adroddiad

30/07/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Rheoli Adeiliadu

Cyfeirnod Achos

202502358

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Bro Morgannwg wedi rhoi tystysgrif cwblhau adeilad ar gyfer ei eiddo er nad oedd yr adeilad yn bodloni safonau diogelwch tân.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor, am chwe mis, wedi ymateb i gais Mr A i’r Cyngor ystyried ei gŵyn yng ngham 2 ei drefn gwyno. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu at Mr A cyn pen wythnos i gydnabod derbyn ei gais am ymchwiliad i gŵyn cam 2 ac ymddiheuro am beidio â gwneud hynny’n gynharach. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i sicrhau bod Mr A yn cael ymateb llawn i’w gŵyn cyn pen 4 wythnos.