Cwynodd Ms X nad oedd Cymdeithas Tai Cymunedol Tai Calon wedi atgyweirio’r grisiau a oedd yn ymsuddo y tu allan i’w heiddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod Ms X wedi cwyno wrth y Gymdeithas, ond nad oedd y Gymdeithas wedi cael copi o’i chŵyn oherwydd problem dechnegol â’r ffurflen gwyno ar-lein ac na allai gael gafael ar y manylion. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas, cyn pen wythnos, gynnig ymddiheuriad ac eglurhad o’r broblem dechnegol a oedd wedi golygu nad oedd y gŵyn wedi’i derbyn, a chyn pen 3 wythnos, gyflwyno ei hymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Gymdeithas i wneud hyn.