Dyddiad yr Adroddiad

28/07/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202501988

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi derbyn cyfrifoldeb am ymchwilio i’w chŵyn ynglŷn â thynnu ei henw oddi ar restr cleifion Meddygfa yn ardal y Bwrdd Iechyd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i ymholiadau Ms A ynglŷn â’r ymchwiliad i’r gŵyn, ond nad oedd wedi cyflwyno ymateb ffurfiol a bod Ms A ddim yn gwybod beth oedd y sail resymegol dros beidio â pharhau â’r ymchwiliad. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, cyn pen 4 wythnos, roi ymateb ffurfiol i Ms A yn amlinellu’r camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd wrth ymdrin â’r gŵyn a gyflwynwyd ym mis Medi 2024. Cytunodd i gynnwys yn yr ymateb y sail resymegol dros y penderfyniadau a wnaethpwyd ynglŷn ag ymchwiliad y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.