Cwynodd Mr X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn Mr X. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, cyn pen 30 diwrnod gwaith, gynnig ymddiheuriad ac eglurhad i Mr X am yr oedi cyn ymateb i’w gŵyn a rhoi ei ymateb i’r gŵyn dan weithdrefn gwyno ‘Gweithio i Wella’.