Dyddiad yr Adroddiad

14/07/2025

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202501359

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Cymdeithas Dai Hafod wedi dweud y byddai rhywun yn cysylltu â hi ynglŷn â gwaith i atgyweirio ei nenfwd; fodd bynnag, nid oedd wedi clywed dim.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi nodi bod y manylion cysylltu a oedd gan y contractwr ar gyfer Miss X yn anghywir. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Miss X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas, cyn pen wythnos, ymddiheuro wrth Miss X am yr oedi y gellid bod wedi ei osgoi cyn atgyweirio’r nenfwd. Cytunodd y Gymdeithas i wneud hyn.