Dyddiad yr Adroddiad

25/07/2025

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202501203

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A ynglŷn â’r camau a gymerwyd gan Gymdeithas Dai Cymoedd i’r Arfordir (“y Gymdeithas Dai”) er mwyn mynd i’r afael â’i bryderon ynglŷn â’r system wresogi yn ei eiddo. Dywedodd Mr A fod hyn wedi achosi tlodi tanwydd yn y cartref.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi cymryd rhai camau i fynd i’r afael â phryderon Mr A, ond nad oedd wedi datrys y gŵyn nac wedi rhoi ymateb llawn a buan i Mr A.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai, cyn pen 4 wythnos, gyflwyno ymateb ffurfiol i gŵyn Mr A, gan gynnwys crynodeb o’r camau sydd wedi’u cymryd hyd yn hyn a’r camau y bwriedir eu cymryd a graddfeydd amser ar gyfer eu cwblhau. Cytunodd hefyd i roi gwybodaeth iddo ynglŷn â chymorth sydd ar gael ar gyfer tlodi tanwydd a sut y gall gael mynediad at y cymorth hwn.