Cwynodd Ms A oherwydd ei bod yn anfodlon gan nad oedd Cyngor Caerdydd wedi gwneud dim ynglŷn â’r dŵr a oedd yn gollwng o’r eiddo uwchben ei fflat hi, gan achosi difrod i’w nenfwd.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi archwilio fflat Ms A a’r eiddo uwchben. Dywedodd y Cyngor wrth Ms A nad oedd tystiolaeth o ddŵr yn gollwng, ond cydnabu fodd bynnag fod anwedd i’w weld ar ffitiad nenfwd. Hysbysodd Ms A yr Ombwdsmon fod y dŵr yn dal i ollwng a’i fod yn gwaethygu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, cyn pen pythefnos, wneud archwiliad pellach o’r eiddo er mwyn canfod o ble roedd y dŵr yn dod, a hysbysu Ms A ynglŷn ag unrhyw gamau eraill a fydd yn cael eu cymryd. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn. Cytunodd hefyd y byddai’n cysylltu â Ms A os nad yw’n gallu mynd i’r eiddo uchod o fewn y ffrâm amser er mwyn rhoi gwybod iddi.