Dyddiad yr Adroddiad

22/07/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202501194

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd y Practis wedi ymateb i gŵyn a gyflwynodd iddo ym mis Tachwedd 2024.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi ymateb i gŵyn Mrs X, ac nad oedd ychwaith wedi ei diweddaru’n rheolaidd. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Practis, cyn pen 4 wythnos, ymddiheuro wrth Mrs X am yr oedi a’r diffyg diweddariadau rheolaidd, cyflwyno ei ymateb i gŵyn a chynnig iawndal o £100 iddi am yr oedi, a’r diffyg diweddariadau rheolaidd, ac am yr amser a’r drafferth o orfod gwneud cwyn i’r Ombwdsmon. Cytunodd y Practis i wneud hyn.