Cwynodd Mrs X nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymateb i’w chŵyn ynglŷn â’r gofal a ddarparwyd i’w diweddar ŵr.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i lythyr cwyn Mrs X a gyflwynwyd iddo ym mis Mawrth 2025. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor, cyn pen 3 wythnos, ymddiheuro wrth Mrs X am y diofalwch wrth beidio ag ymateb i’w llythyr, cyflwyno ymateb i gŵyn a chynnig iawndal o £100 am y diofalwch wrth beidio ag ymateb i’w llythyr ac am ei hamser a’i thrafferth wrth orfod gwneud cwyn i’r Ombwdsmon. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny.