Dyddiad yr Adroddiad

16/07/2025

Achos yn Erbyn

Adra

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202500849

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Adra wedi cwblhau gwaith atgyweirio i’w gartref – gwaith yr oedd Mr A yn dweud ei fod wedi rhoi gwybod amdano droeon dros gyfnod o fisoedd, a blynyddoedd. Dywedodd Mr A ei fod yn cael anhawster i gael diweddariadau, a bod Adra heb roi ymateb ysgrifenedig i’w ail gŵyn. Dywedodd Mr A fod Adra heb gydnabod ambell waith atgyweirio, ac nad oedd yn ffyddiog y byddai’r holl waith atgyweirio’n cael ei gwblhau yn fuan. Dywedodd Mr A fod y materion yn effeithio ar ei iechyd corfforol a meddyliol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod Adra wedi dechrau gwneud rhywfaint o waith atgyweirio, ond nad oedd wedi cyflwyno ymateb ffurfiol i ail gŵyn Mr A, ac nad oedd yn glir a oedd yr holl waith atgyweirio wedi cael ei gydnabod a’i weithredu. Nid oedd sylw wedi’i roi i bryderon Mr A ynglŷn â’r oedi hir a’r effaith y mae hyn wedi’i gael arno ef. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i Adra, cyn pen wythnos, ymddiheuro wrth Mr A ei fod wedi gorfod cysylltu â’r Ombwdsmon a chadarnhau gwaith atgyweirio sydd heb ei gwblhau a dyddiadau ar gyfer cwblhau yn ysgrifenedig. Cytunodd Adra i wneud hyn. Cytunodd Adra hefyd, cyn pen pythefnos, i gyflwyno ymateb i’r materion sy’n parhau i achosi pryder i Mr A, gan roi sylw i’r oedi a’r effaith arno ef, a chywiro unrhyw faterion a nodwyd.