Dyddiad yr Adroddiad

29/07/2025

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202500781

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Trivallis heb wneud gwaith atgyweirio i waliau mewnol ei heiddo. Cysylltodd Mrs A â’r Gymdeithas Dai, ond ni chafodd y mater ei gofnodi fel cwyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Trivallis wedi hysbysu Mrs A o’r blaen y byddai’n anfon crefftwr i’w chartref i asesu’r waliau, ond nid oedd hyn wedi digwydd, ac nid oedd wedi ymateb i’w chŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i Trivallis, cyn pen pythefnos, gynnig ymddiheuriad i Mrs A, cyflwyno ymateb i’w chŵyn, trefnu bod crefftwr yn ymweld â’i heiddo i asesu a chytuno ar waith atgyweirio i’w wneud, a chynnig talu iawndal o £100 am yr oedi. Cytunodd Trivallis i wneud hyn.