Cwynodd Mrs A oherwydd ei bod yn anfodlon â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fab gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yn anffodus bu farw mab Mrs A ym mis Medi 2023.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cwblhau Adroddiad ar Ddigwyddiad Difrifol a oedd yn nodi gwersi i’w dysgu. Penderfynodd yr Ombwdsmon fod yr esboniadau a oedd yn yr adroddiad yn rhesymol. Rhoddodd y Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn a chynhaliodd gyfarfod gyda Mrs A ym mis Chwefror 2025. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cymryd nodiadau o’r cyfarfod ac nad oedd wedi darparu diweddariad ar feddyginiaeth ei mab, fel y cytunwyd yn y cyfarfod. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd, cyn pen 3 wythnos, ymddiheuro wrth Mrs A am beidio â chymryd nodiadau yn y cyfarfod, darparu diweddariad ynglŷn â meddyginiaeth ei mab, a darparu diweddariad ar y cynnydd â’r argymhellion yn yr Adroddiad ar Ddigwyddiad Difrifol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn.