Dyddiad yr Adroddiad

22/07/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl ag anabledd

Cyfeirnod Achos

202500279

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A ynglŷn â sut roedd y Cyngor wedi penderfynu ynglŷn â’i chais am grant cyfleusterau i bobl anabl. Dywedodd Miss A fod y Cyngor wedi gwneud asesiad ar gyfer y grant ym mis Tachwedd 2023 mewn eiddo roedd hi wedi ei brynu, ac er iddi gael ei hysbysu ar lafar nad oedd yn addas ar gyfer grant cyfleusterau i bobl anabl, ni dderbyniodd wybodaeth ysgrifenedig tan fis Hydref 2024 pan ofynnodd hi am yr wybodaeth. Cwynodd Miss A hefyd ynglŷn â’r ffaith ei bod wedi cysylltu â’r Cyngor ym mis Hydref 2024 ynglŷn â grant cyfleusterau i bobl anabl a bod y Cyngor wedi dweud wrthi na allai gyflwyno cais newydd gan fod ei chais blaenorol wedi cael ei wrthod.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi egluro nac ymddiheuro wrth Miss A am yr oedi cyn ei hysbysu yn ysgrifenedig ynglŷn â chanlyniad yr asesiad grant cyfleusterau i bobl anabl ym mis Tachwedd 2023, ac nad oedd wedi rhoi sylw i’w chŵyn ynglŷn â gwrthod y cais newydd am grant cyfleusterau i bobl anabl ym mis Hydref 2024. Yn ychwanegol at hyn, nid oedd gan y Cyngor broses neu weithdrefn fewnol ar gyfer prosesu ac ymdrin ag asesiadau a cheisiadau am grant cyfleusterau i bobl anabl. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gyflwyno ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss A am yr oedi cyn ysgrifennu ati ynglŷn â chanlyniad yr asesiad cychwynnol ar gyfer grant cyfleusterau i bobl anabl, cynnal asesiad newydd ar gyfer grant cyfleusterau i bobl anabl yn ei heiddo ac, ar ôl gwneud hynny, ei hysbysu yn ysgrifenedig ynglŷn â’r canlyniad cyn pen 6 wythnos o benderfyniad yr Ombwdsmon. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i ddogfennu proses neu weithdrefn fewnol ar gyfer asesiad grant cyfleusterau i bobl anabl i ymgorffori camau dilynol perthnasol a, lle bo angen, fframiau amser priodol, cyn pen 12 wythnos ar ôl penderfyniad yr Ombwdsmon.