Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”). Yn fwyaf penodol, a gafodd ei brolaps colon a rhefr ei reoli’n briodol gan Dîm y Colon a’r Rhefr, o adeg yr atgyfeiriad cychwynnol ym mis Chwefror 2022 tan fis Mai 2024.
Canfu’r ymchwiliad fod prolaps colon a rhefr Mr C wedi cael ei reoli’n briodol. Roedd effaith pandemig COVID-19 yn golygu bod rhestr aros hir am lawdriniaeth. Roedd y symptomau a adroddwyd gan Mr C mewn adolygiad ymgynghorol ym mis Ebrill 2023 yn awgrymu ei bod yn briodol gwneud rhagor o ymchwiliadau yn hytrach na bwrw ymlaen â’r llawdriniaeth. O ganlyniad, gofynnwyd am yr ymchwiliadau priodol, a chafodd y rhai y gallai’r Bwrdd Iechyd eu cyflawni eu gwneud o fewn ffrâm amser priodol. Oherwydd camgymeriad ebost, ni dderbyniwyd atgyfeiriad ar gyfer proctogram (archwiliad pelydr X o ran isaf y coluddyn a’r rhefr i ddangos sut mae’r rhefr yn gweithio wrth wagu’r coluddyn) tan i’r camgymeriad gael ei gywiro 5 wythnos yn diweddarach, gan achosi ymateb hwyr. Fodd bynnag, ni wnaeth hyn achosi anghyfiawnder arwyddocaol.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi’i lesteirio oherwydd y methiant i ddod o hyd i fwrdd/ymddiriedolaeth iechyd i wneud ymchwiliad nad yw ar gael yn lleol ond y bernir bod ei angen. Gallasai’r cyfathrebu yn ystod y cyfnod gofal diweddarach a ystyriwyd fod yn well, ond ni chawsom ein hargyhoeddi ei fod yn ofal amhriodol na bod Mr C wedi dioddef anghyfiawnder arwyddocaol o ganlyniad iddo. Ni wnaeth yr ymchwiliad gadarnhau cwyn Mr C.