Heddiw mae Ombwdsmon Cymru yn cyhoeddi eu Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2024-25, sy’n dangos cynnydd aruthrol o 43% yn nifer y cwynion newydd a gafwyd ers y flwyddyn cyn pandemig Covid-19.
Yr uchafbwyntiau
Mae 2024-25 yn nodi blwyddyn arall o gynnydd mewn llwythi achosion, gyda mwy o bobl nag erioed yn cysylltu â’r Ombwdsmon gyda chwynion am wasanaethau cyhoeddus. Mae’r Swyddfa wedi ymyrryd yn gynnar mewn mwy o achosion ac wedi lleihau’r amser a gymerir i gwblhau ymchwiliadau. Mae’r Ombwdsmon hefyd wedi cymryd camau breision i hyrwyddo gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy waith safonau cwynion, ymchwiliadau ar ei liwt ei hun ac adroddiadau thematig. Er gwaethaf yr heriau, mae hyder y cyhoedd yn y swyddfa ar ei uchaf erioed.
Cwynion am wasanaethau cyhoeddus
Yn ystod 2024-25, derbyniodd yr Ombwdsmon:
- 949 o gwynion am Fyrddau Iechyd, cynnydd o 26% ers 2019-20
- 1,337 o gwynion am Gynghorau Lleol, cynnydd o 54% ers 2019-20
- 411 o gwynion am Gymdeithasau Tai, cynnydd o 103% ers 2019-20.
Ar 34%, iechyd yw pwnc mwyaf cyffredin eu cwynion newydd. Fodd bynnag, mae cyfran y cwynion am dai wedi cynyddu, i 19%. Yn gadarnhaol, mae cyfran y cwynion am ymdrin â chwynion wedi parhau i ostwng ac mae bellach yn 12% – yr isaf ers 2019-20.
Canfu’r Ombwdsmon fod rhywbeth wedi mynd o’i le ac ymyrrodd mewn 18% o gwynion am wasanaethau cyhoeddus a gaewyd yn ystod y flwyddyn, o’i gymharu â 20% y flwyddyn flaenorol. Bron i 9 allan o 10 gwaith, ymyrrodd yr Ombwdsmon drwy gynnig Datrysiad Cynnar, i gyflawni cyfiawnder yn gyflym, heb fod angen cynnal ymchwiliad llawn.
Cydymffurfiodd sefydliadau â 94% o argymhellion yr Ombwdsmon a oedd yn ddyledus yn ystod y flwyddyn, ond cydymffurfiwyd â chyfran is o argymhellion mewn pryd â’r dyddiad targed y cytunwyd arno.
Cwynion am y Cod Ymddygiad
Mae’r Ombwdsmon hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion am gynghorwyr lleol yn torri’r Cod Ymddygiad.
Yn ystod 2024-25, derbyniodd yr Ombwdsmon 315 o gwynion Cod Ymddygiad y gallai’r swyddfa eu hystyried; 4% yn llai na’r llynedd, ond 36% yn fwy nag yn 2019-20. Gwnaed 60% o’r cwynion newydd yn erbyn cynghorwyr mewn Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned ac roedd 56% yn ymwneud â sut roedd cynghorwyr yn hyrwyddo cydraddoldeb a pharch.
Nid yw’r swyddfa yn gwneud canfyddiadau terfynol am dorri’r Cod Ymddygiad. Yn lle hynny, pan fydd ymchwiliadau yn canfod y pryderon mwyaf difrifol, caiff y rhain eu cyfeirio at Bwyllgor Safonau’r awdurdod lleol perthnasol, neu at Banel Dyfarnu Cymru. Yn 2024-25, gwnaeth yr Ombwdsmon 15 atgyfeiriad o’r fath – cadarnhaodd a chanfu Pwyllgorau Safonau a Phanel Dyfarnu Cymru doriadau mewn 85% o atgyfeiriadau’r Ombwdsmon a ystyriwyd ganddynt.
Ym mis Mawrth 2024, cododd gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol gan gyn-aelod o staff amheuaeth am ddidueddrwydd y Swyddfa wrth ymdrin â chwynion Cod Ymddygiad. Er mwyn ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein gwasanaeth, penododd yr Ombwdsmon Dr Melissa McCullough i gynnal adolygiad annibynnol o’n dull o ymdrin â chwynion Cod Ymddygiad. Canfu’r adroddiad ar yr adolygiad hwn fod prosesau a dirprwyaethau Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon yn “briodol, yn deg ac yn ddiduedd ac yn rhydd rhag rhagfarn wleidyddol”. Yn dilyn hyn, cyhoeddodd Pwyllgor Cyllid y Senedd ei adroddiad ar yr Adolygiad o weithrediadau, prosesau ac ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dywedodd yr adroddiad y “gall y Senedd fod yn hyderus y gall y swyddfa gynnal ymchwiliadau yn y dyfodol yn ddiduedd ac yn deg”.
Mae Adroddiad Blynyddol 2024-25 yr Ombwdsmon yn cynnwys gwybodaeth fanwl am sut ymatebodd y Swyddfa i’r argymhellion a’r gwersi a ddysgwyd o’r adolygiadau hyn.
Hygyrchedd a chynhwysiant
Mae’r Ombwdsmon yn benderfynol o sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gwybod am y Swyddfa a’i bod yn cynnig gwasanaeth teg a chyfartal i bawb.
Yn 2024-25, dywedodd 48% o’r bobl a holwyd eu bod yn gwybod am yr Ombwdsmon – dim ond cyfran ychydig yn is na’r llynedd. Ar 79%, roedd hyder yn y Swyddfa ar ei uchaf erioed.
Dywedodd 86% o’r achwynwyr a holwyd ei bod hi’n hawdd cysylltu â’r Ombwdsmon – o’i gymharu ag 83% y llynedd.
Derbyniodd y Swyddfa 162 o gwynion ar wahân i rai ysgrifenedig – o’i gymharu â 103 y llynedd. Mae hon yn ffordd bwysig y gall yr Ombwdsmon gael gwared ar rai rhwystrau a allai atal pobl rhag cwyno.
Gwaith gwella
Mae’r Ombwdsmon hefyd yn gweithio i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Mae 54 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru bellach yn cydymffurfio â’r Safonau Cwynion a osodwyd gan yr Ombwdsmon. Ers 2020, mae’r Swyddfa wedi darparu 550 o sesiynau hyfforddi, gan gyrraedd tua 10,000 o staff mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mae tystiolaeth yn awgrymu, ers i’r Ombwdsmon gael y pŵer yn 2019 i hyrwyddo safonau cwynion da yng Nghymru, fod rhywfaint o welliant wedi bod ym mhrofiad pobl sy’n cwyno i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Gall yr Ombwdsmon hefyd ymchwilio ar ei liwt ei hun (heb orfod cael cwyn). Yn ystod 2024-25, cwblhaodd y Swyddfa ei hail ymchwiliad ehangach ‘ar ei liwt ei hun’, a oedd yn edrych ar asesiadau o anghenion gofalwyr yng Nghymru. Canfu’r ymchwiliad mai ychydig iawn o ofalwyr sy’n derbyn asesiad o anghenion y mae ganddynt hawl iddo, neu gynllun cymorth priodol, yn dilyn eu hasesiad.
Yn ogystal, eleni cyhoeddodd yr Ombwdsmon 8 adroddiad er budd y cyhoedd ar rai o’r cwynion mwyaf difrifol, pob un yn ymwneud â gofal iechyd.
Cyhoeddodd y Swyddfa ddau adroddiad thematig hefyd, gan dynnu sylw at themâu sy’n codi dro ar ôl tro yn ei gwaith achos. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Byw mewn Cyflyrau Difrifol – adroddiad thematig am gwynion tai yn ymwneud â diffyg atgyweirio a lleithder a llwydni.
- Mae Cydraddoldeb o Bwys – adroddiad thematig ar faterion ynghylch cynhwysiant a hygyrchedd mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
“Rydym bellach wedi cwblhau ail flwyddyn ein Cynllun Strategol 2023-26, ‘Pennod Newydd’, ac mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall.
“Rydym yn parhau i weld cynnydd yn nifer y cwynion newydd sy’n cyrraedd y Swyddfa. Er gwaethaf hyn, rydw i’n falch o ddweud bod ein staff wedi parhau i ddarparu gwasanaethau eithriadol. Fodd bynnag, mae rheoli'r llwyth gwaith cynyddol hwn yn parhau i fod yn her ddifrifol i'n Swyddfa.”
“Eleni, rydym wedi casglu barn gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector a'r cyhoedd yn gyffredinol, ynglŷn â'n sefydliad a'r gwasanaethau a ddarparwn. Roeddem yn falch o weld tystiolaeth o werthfawrogiad cyffredinol o'n gwaith a chydnabyddiaeth ein bod yn cael effaith gadarnhaol ar wella gwasanaethau cyhoeddus.”
“Byddwn yn parhau i weithio tuag at ein nodau uchelgeisiol yn ystod 2025-26, gan archwilio ffyrdd newydd o oresgyn heriau hirsefydlog a chyflawni cyfiawnder a newid cadarnhaol i bobl Cymru.”
Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: