Dyddiad yr Adroddiad

30/05/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Neyland

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202307934/202306826/202302730

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Rhwng 1 Medi 2023 ac 11 Mawrth 2024, cychwynom ymchwiliadau ar ôl derbyn 4 cwyn ar wahân bod y Cyn-Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cyngor Tref Neyland (“y Cyngor”). Yn fras, honnwyd bod y Cyn-Aelod wedi methu â thrin eraill yn y Cyngor ag ystyriaeth a pharch; ei fod wedi gwneud cwynion blinderus am aelodau eraill; ei fod wedi bwlio ac aflonyddu ar y Clerc ac wedi dwyn anfri ar y Cyngor ac ar swydd y cynghorydd.

Cawsom wybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys copïau o negeseuon e-bost, recordiadau a chofnodion cyfarfodydd y Cyngor, gwybodaeth gan yr Heddlu a chyfwelom â’r Achwynwyr, tyst yn y Cyngor a’r Cyn-Aelod am y mater.

Dangosodd y dystiolaeth a gasglom ddarlun pryderus o ymddygiad gwael, dros gyfnod sylweddol o amser, a oedd wedi effeithio ar eraill, ac ar hawliau pobl eraill, ac nad oedd yn arwydd o’r safonau ymddygiad uchel a ddisgwylir gan aelodau mewn bywyd cyhoeddus.

Yn ystod camau olaf ein hymchwiliad, ysgrifennodd y Cyn-Aelod at Gadeirydd y Cyngor yn hysbysu’r Cyngor am ei “ymddeoliad” o’r Cyngor “ar sail afiechyd”, a hynny ar unwaith. Cadarnhaodd y llythyr ei ymddiswyddiad effeithiol o’r Cyngor ac nad yw’n aelod o’r Cyngor mwyach.

Ystyriom yn ofalus briodoldeb parhau â’n hymchwiliad o dan yr amgylchiadau hyn. Daeth ymddiswyddiad y Cyn-Aelod â’i rôl o ymddiriedaeth a dylanwad ar y Cyngor i ben ac roedd yn golygu nad oedd bellach yn peri risg bosibl i hawliau eraill nac i enw da’r Cyngor a rôl y cynghorydd. Felly, roeddem o’r farn nad oedd cwblhau ein hymchwiliad bellach er budd y cyhoedd a phenderfynom roi’r gorau i’n hymchwiliad.

Pe bai’r Cyn-Aelod wedi parhau i wasanaethu ar y Cyngor, ac oni bai am ei amgylchiadau personol anodd, yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglom, mae’n debyg y byddem wedi cyfeirio ymddygiad y Cyn-Aelod at Bwyllgor Safonau neu dribiwnlys i’w benderfynu. Dywedwyd wrth y Cyn-Aelod, pe bai pryderon pellach yn cael eu cyfeirio atom, y byddem yn ystyried y materion hyn sydd wedi’u dirwyn i ben wrth benderfynu ar ein camau gweithredu.