Cyfeiriodd aelod o Gyngor Sir Ynys Môn (“yr Aelod”) ei hun i fy swyddfa ar ôl gwneud y sylw mewn cyfarfod “bod angen saethu pob Tory”.
Roedd tystiolaeth o sylw eang yn y cyfryngau; cwynion i’r Cyngor; cwyn i gorff llywodraethu yr oedd yr Aelod yn aelod ohono a’i gyfaddefiad ei hun, yn awgrymu y gallai bod achos o dorri’r Cod Ymddygiad wedi digwydd.
Canfu’r Ombwdsmon fod y dystiolaeth yn awgrymu bod paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod efallai wedi cael eu torri a chyfeiriodd ei hadroddiad at sylw Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Ynys Môn.
Penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod. Penderfynodd y dylid rhoi cerydd i’r Aelod. Yn ogystal, gwnaeth 2 argymhelliad mewn ymdrech i gefnogi ei nod o gynnal hyder y cyhoedd.