Dyddiad yr Adroddiad

16/06/2025

Achos yn Erbyn

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Pwnc

Materion cynllunio arall

Cyfeirnod Achos

202308547

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mr D am y ffordd y cafodd cais cynllunio (‘y Cais’) ei drin gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (‘yr Awdurdod’) yn ymwneud â dymchwel ac ailadeiladu annedd (‘y Datblygiad Arfaethedig’) ar dir sy’n ffinio â chartref ei rieni (‘yr Eiddo Cyfagos’). Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i weld a oedd yr Awdurdod wedi methu â dilyn y gweithdrefnau priodol neu wedi methu â chymryd i ystyriaethau cynllunio perthnasol wrth ystyried effaith y Datblygiad Arfaethedig ar fwynhad rhieni Mr D o’u heiddo.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd unrhyw fethiant gan yr Awdurdod i ddilyn y gweithdrefnau priodol nac i ystyried ystyriaethau cynllunio perthnasol wrth ystyried effaith y Datblygiad Arfaethedig ar fwynhad rhieni Mr D o’u heiddo. Ystyriodd swyddogion cynllunio’r Awdurdod ystyriaethau cynllunio perthnasol, gan gynnwys cyfraith, polisi a chanllawiau perthnasol, ac roedd ganddynt hawl, o fewn eu barn broffesiynol, i ddod i’r farn na fyddai’r Datblygiad Arfaethedig yn cael effaith annerbyniol ar amwynder yr Eiddo Cyfagos. Darparwyd digon o wybodaeth berthnasol i Bwyllgor Rheoli Datblygu’r Awdurdod am yr effaith ar yr Eiddo Cyfagos i ddod i benderfyniad rhesymedig, ac roedd ei benderfyniad i gymeradwyo’r Cais, yn amodol ar amodau cynllunio, yn un yr oedd pwyllgor cynllunio rhesymol â hawl i’w wneud. Yn unol â hynny, ni chadarnhawyd y gŵyn.