Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Hydref 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i gŵyn Ms A, gan achosi rhwystredigaeth i Ms A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro ac egluro’r rhesymau dros yr oedi, ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.