Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaed gan ei Aelod Senedd (‘AS’) ar ei ran.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi diweddaru AS Mr X, nad oedd wedi diweddaru Mr X nac wedi darparu ymateb i’w gŵyn iddo. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr X, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X a rhoi diweddariad iddo o fewn pythefnos, ac i gyhoeddi ei ymateb i’w gŵyn iddo o fewn 8 wythnos.