Cwynodd Mrs A fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot (‘y Cyngor’) wedi methu â phenderfynu ar gais am fast ffôn symudol y tu allan i’w chartref o fewn y cyfnod gofynnol, gan arwain at y datblygwr yn cael caniatâd yn ddiofyn. Cwynodd fod y mast yn ymwthiol yn weledol ac y byddai’n effeithio ar werth ei chartref.
Derbyniodd y Cyngor ei fod wedi methu â phenderfynu ar y cais a, phe bai wedi gwneud hynny’n briodol, y byddai wedi gwrthod caniatâd, er y gallai’r penderfyniad hwnnw fod wedi’i wrthdroi ar ôl apêl. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd yn bosibl dweud yn bendant na fyddai’r mast wedi cael caniatâd, ac felly na allai argymell iawndal mewn perthynas â gostyngiad yng ngwerth eiddo. Fodd bynnag, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod yr ansicrwydd a achoswyd i Mrs A yn anghyfiawnder iddi.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i dalu £500 i Mrs A, o fewn 4 wythnos, i gydnabod yr ansicrwydd a achoswyd iddi ynghylch a allai caniatâd i’r mast fod wedi cael ei wrthod, ac felly efallai na fyddai wedi’i leoli y tu allan i’w chartref. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn yn cynrychioli canlyniad priodol, ac ni ymchwiliodd i’r gŵyn ymhellach.