Dyddiad yr Adroddiad

27/06/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202501157

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam gan feddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Canfu’r Ombwdsmon fod y feddygfa wedi cynnal cyfarfod â Mrs X i drafod ei phryderon; fodd bynnag, roedd wedi methu â darparu ymateb i’r gŵyn yn unol â’r weithdrefn ‘Gweithio i Wella’. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y feddygfa i ymddiheuro i Mrs X am fethu â darparu ymateb i’r gŵyn, ac i gyhoeddi ei hymateb o fewn pythefnos.