Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a gyflwynodd ym mis Ionawr 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod wrth ymateb i gŵyn ffurfiol Mrs X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn pythefnos, gynnig ymddiheuriad am yr oedi a’r diffyg diweddariadau ac egluro’r rhesymau dros hyn, yn ogystal â darparu’r ymateb ffurfiol i’r gŵyn erbyn y dyddiad y cytunwyd arno hefyd.