Dyddiad yr Adroddiad

24/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500807

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi nodi atebolrwydd cymwys, fodd bynnag, roedd wedi methu â chynghori Mrs X am ei hawl i gyngor cyfreithiol o dan ddarpariaeth iawndal ariannol y weithdrefn ‘Gweithio i Wella’, a dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn yn anfantais i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i, o fewn 1 wythnos, ysgrifennu at Mrs X yn amlinellu’n glir y camau nesaf yn y broses, a’i hysbysu am ei hawl i gyngor cyfreithiol.