Cwynodd Mr X fod Tai Gogledd Cymru wedi methu ag ymateb i’r pryderon a gododd ar ddiwedd 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Tai wedi methu â rhoi ymateb ffurfiol i Mr X i’w gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas Tai i roi ymateb ffurfiol i’w gŵyn o fewn 3 wythnos, a’i gael. Bydd yr ymateb i’r gŵyn yn cynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, diweddariad y bydd yr atgyweiriadau’n dechrau ymhen 3 wythnos, a chynnig o £100 o iawndal ariannol i gydnabod yr oedi.