Cwynodd Mr A i’r swyddfa hon fod y Feddygfa wedi methu â mynd i’r afael â’i bryderon ynghylch y ffordd yr oedd wedi cael ei drin ganddi. Roedd Mr A wedi cwyno i’r Feddygfa ym mis Rhagfyr 2024, trwy ei eiriolwr Llais, ond nid oedd y Feddygfa wedi ymateb yn ysgrifenedig i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi methu ag ymchwilio ac ymateb i gŵyn Mr A fel y dylai fod wedi’i wneud, o dan y Trefniadau Gweithio i Wella.
Yn lle ymchwilio i’r gŵyn hon, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ymchwilio ac ymateb i gŵyn Mr A, yn unol â’r Trefniadau Gweithio i Wella, ac i ymddiheuro iddo am beidio â gwneud hynny yn y lle cyntaf. Cytunodd y Feddygfa i wneud hyn o fewn 30 diwrnod gwaith.