Cwynodd Mr G fod Cyngor Caerdydd wedi methu ag ymateb i gŵyn Gwasanaethau Cymdeithasol a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â hysbysu Mr G fod oedi gyda’i ymchwiliad. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr G. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i dalu iawndal ariannol o £50 i Mr G, o fewn pythefnos, am fethu â chydymffurfio â’i broses gwyno.