Dyddiad yr Adroddiad

04/06/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202500710

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr K nad oedd y Cyngor wedi ymateb i gŵyn a godwyd ym mis Chwefror 2025 ynghylch casgliadau sbwriel/gwastraff a fethwyd dro ar ôl tro.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â delio â’r gŵyn a achosodd rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr K. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i uwchgyfeirio cwyn Mr K i Gam 2 ar unwaith, ac i ysgrifennu ato gyda’i ymddiheuriad a chadarnhad o’r uwchgyfeirio. Cytunodd hefyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos.