Dyddiad yr Adroddiad

24/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500641

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A oherwydd ei bod yn anfodlon â gofal a thriniaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg o’i diweddar ŵr. Yn anffodus, bu farw gŵr Mrs A ym mis Gorffennaf 2024.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i’r gŵyn, gan gynnwys adroddiad ymchwiliad, ym mis Chwefror 2025. Fodd bynnag, roedd Mrs A wedi codi sawl cwestiwn ynglŷn â’r ymateb, ac roedd cyfarfod yn cael ei drefnu i drafod y rhain. Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon hefyd fod Mrs A wedi codi pryderon yn wreiddiol yn 2022 a 2023. Bu oedi sylweddol cyn i Mrs A dderbyn ymateb i’w chŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A am yr oedi cyn darparu ymateb i’w chŵyn a chynnig taliad iawndal ariannol o £250, a’i sicrhau.