Cwynodd Ms P fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Awst 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod gyda chwblhau ymchwiliad y Bwrdd Iechyd, a’i fod wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms P yn rheolaidd am y cynnydd. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Ms P. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith. Dylai gynnwys ymddiheuriad a thaliad ariannol o £150 i gydnabod ei fethiant i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ms P.