Cwynodd Mrs F fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i gŵyn am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi hysbysu Mrs F, ym mis Ionawr 2025, fod yr ymchwiliad wedi’i gwblhau ond na chyhoeddwyd yr ymateb pan ddaeth â’i chŵyn atom ym mis Ebrill. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs F. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs F, o fewn 1 wythnos, i ymddiheuro ac egluro’r oedi. Cytunodd hefyd i gyhoeddi ei ymateb o fewn 3 wythnos.