Dyddiad yr Adroddiad

12/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202500416

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag ymateb i’w phryderon dilynol ynghylch triniaeth ei merch.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i bryderon Mrs X. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs X o fewn pythefnos gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn.