Cwynodd Mr X nad oedd y Feddygfa wedi ymateb i’w gŵyn a gyfeiriwyd ati gan yr Ombwdsmon ym mis Awst 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Feddygfa wedi methu ag ymateb i’r gŵyn, a bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd yr Ombwdsmon, a chael, cytundeb y Feddygfa i ysgrifennu at Mr X o fewn 3 wythnos gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, cyhoeddi ei hymateb i’r gŵyn a chynnig taliad iawndal o £150 am yr oedi a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon.