Cwynodd Ms A oherwydd ei bod yn anfodlon â gweithredoedd Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol (‘CDAT’) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn rhesymol o ran nifer o bryderon Ms A. Fodd bynnag, nodwyd bod CDAT wedi hysbysu Ms A mai cyfarfod â hi fyddai’r cam gweithredu gorau i drafod pryderon pellach a godwyd mewn gohebiaeth e-bost. Ni threfnwyd y cyfarfod o fewn amserlen resymol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A am beidio â threfnu’r cyfarfod yn gynt o fewn pythefnos, ac i’w hysbysu o fwriad y Bwrdd Iechyd i ymchwilio ac ymateb i’w phryderon pellach, gan roi gwybod iddi pa bryderon a fydd yn cael eu hymchwilio.