Dyddiad yr Adroddiad

12/06/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Ymdriniaeth â chais cynllunio (arall)

Cyfeirnod Achos

202410249

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr C nad oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot (‘y Cyngor’) wedi ystyried yn briodol yr effaith ar drigolion lleol pan gymeradwyodd gais am ganiatâd cynllunio, ac nad oedd wedi ymateb i sylwadau a wnaed gan gynrychiolydd etholedig Mr C.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, yn dilyn ymateb cychwynnol i’r cynrychiolydd etholedig, nad oedd y Cyngor wedi darparu’r diweddariadau y dywedodd y byddai’n eu darparu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ddarparu ymateb i’r pryderon a godwyd gan gynrychiolydd etholedig Mr C o fewn pythefnos.