Dyddiad yr Adroddiad

20/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202410202

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w fam tra roedd yn glaf yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ym mis Chwefror 2024 ac yn Ysbyty Ystrad Fawr ym mis Mai 2024. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i gŵyn bellach a gyflwynwyd am gyfnod o ofal ym mis Mehefin 2024.
Ni ymchwiliwyd i’r gŵyn gan na welwyd tystiolaeth bod y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w fam wedi gostwng islaw’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl gan y GIG yng Nghymru. Hefyd, yng ngoleuni’r camau a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd, ni fyddai’n gymesur ymchwilio.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddatrysiad cynnar i ddarparu ymateb i’r gŵyn heb ei datrys ac ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb.