Dyddiad yr Adroddiad

11/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202410048

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am yr amser yr oedd wedi bod yn aros am lawdriniaeth cataractau. Roedd yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod atgyfeiriadau wedi’u gwneud gan optegydd Mr A yn 2022 a 2024. Er bod y rhestr aros am driniaeth tua 2 flynedd, roedd Mr A eisoes wedi aros tua 2 flynedd a 6 mis heb gael triniaeth. Nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliad i gŵyn nac wedi darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn, er gwaethaf i Mr A ofyn am hyn. Roedd yr ymatebion anffurfiol a ddarparwyd yn cynnwys gwybodaeth anghywir, ac nid oeddent wedi mynd i’r afael â materion yn ddigonol. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ffurfiol i Mr A i’w gŵyn o fewn 4 wythnos, ynghyd ag ymddiheuriad ac esboniad am y gwallau a oedd o fewn ymatebion anffurfiol y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn, a diweddariad ynghylch y sefyllfa bresennol mewn perthynas â’i lawdriniaeth cataractau.