Cwynodd Ms A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i ohebiaeth ddilynol, lle eglurodd ei phryderon ar ôl derbyn ymateb ffurfiol i’r gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb ymhellach i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb ysgrifenedig i Ms A yn unol â’i broses pryderon a chwynion, ac i ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hyn o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.