Dyddiad yr Adroddiad

12/06/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202409144

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A oherwydd ei bod yn anhapus gyda methiant Cyngor Sir Penfro (‘y Cyngor’) i’w symud o’i llain bresennol ar safle carafanau, er gwaethaf y ffaith ei fod yn cael ei ystyried yn berygl tân. Dywedodd Mrs A fod y Cyngor wedi’i hysbysu y byddai’n cael ei symud, ond nad oedd hynny wedi digwydd.
Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cytuno i symud Mrs A ond sefydlodd fod Mrs A wedi bod yn cael problemau gyda’i llain bresennol ers peth amser. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gwblhau’r trosglwyddiad diogel i Mrs A symud o fewn 3 mis. Cadarnhaodd y Cyngor hefyd i’r Ombwdsmon fod cais llwyddiannus am gyllid yn golygu y byddai’r llain newydd yn cael ei choncritio fel rhan o symud Mrs A.