Cwynodd Ms D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg wedi methu ag ymateb i’w chŵyn ynghylch sut y cyfathrebodd â hi wrth gynnal adolygiad Sefyllfa, Cefndir, ac Argymhelliad Asesiad i ofal ei diweddar dad, Mr D. Roedd rhai elfennau o ofal a thriniaeth Mr D hefyd yn cael eu hystyried o dan Gynllun Iawndal y GIG.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y materion a godwyd yng ngh?yn Ms D, nad oeddent yn cael eu hystyried o dan y Cynllun Iawndal, yn gofyn am ymateb i’r gŵyn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai o fewn pythefnos yn ysgrifennu at Ms D i ymddiheuro am y diffyg cyfathrebu, ac o fewn 3 mis y byddai’n darparu ymateb i’r gŵyn ar gyfer yr elfennau a oedd y tu allan i’r Cynllun Iawndal.