Dyddiad yr Adroddiad

09/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202408837

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am safon y gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam, Mrs B, pan oedd hi’n glaf mewnol yn Ysbyty Treforys yn 2022. Tynnodd sylw at bryderon ynghylch gofal nyrsio a diagnosis hwyr o syndrom Cushing. Yn ei ymateb i’r gŵyn, cydnabu’r Bwrdd Iechyd fod torri dyletswydd gofal wedi digwydd mewn perthynas â’r atgyfeiriad a’r diagnosis hwyr o syndrom Cushing. Fodd bynnag, barn yr Ombwdsmon oedd nad oedd wedi rhoi rhesymau digonol dros ei gasgliad nad oedd unrhyw atebolrwydd cymwys (niwed) yn yr achos hwn, ac y dylid atgyfeirio’r mater drwy’r broses gwneud iawn statudol.

Felly cytunodd y Bwrdd Iechyd i: O fewn 2 fis

  • Cyfeirio cwyn Mrs A yn ôl drwy’r broses gwneud iawn statudol (o dan reoliad 26) i asesu lefel y niwed oherwydd yr oedi cyn cyfeirio a gwneud diagnosis o syndrom Cushing.
  • Darparu ymateb ysgrifenedig ychwanegol i Mrs A yngl?n â’r dysgu a’r gwelliant yn sgil ei chwyn.