Dyddiad yr Adroddiad

23/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202405608

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (‘y Bwrdd Iechyd’) yn dilyn anaf i’w gefn/asennau a gafodd ar 6 Mehefin 2024 tra ar drên powlio mewn parc thema. Dywedodd Mr C fod y Bwrdd Iechyd wedi colli cyfleoedd i wneud diagnosis o doriad yn ei asgwrn cefn, a bod ffisiotherapydd wedi methu â rheoli ei boen cefn yn briodol.

Canfu’r ymchwiliad fod gofal priodol wedi’i ddarparu i Mr C pan gyflwynodd ei hun i’r Adran Achosion Brys yn yr ysbyty ar 7 Mehefin 2024, ac nad oedd unrhyw gyfleoedd wedi’u colli i wneud diagnosis o doriad yn ei asgwrn cefn. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod gofal ffisiotherapi priodol wedi’i ddarparu i Mr C a gafodd ddiagnosis o doriad sefydlog, cymharol fach. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.