Dyddiad yr Adroddiad

24/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202405374

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Bwrdd Iechyd. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y gwaith arferol o osod cathetr ar Mr C, a gyflawnwyd gan y Gwasanaeth Nyrsys Ardal ar 25 Medi 2023, wedi’i wneud yn briodol, ac a allai hyn fod wedi arwain at yr angen i Mr C gael ei dderbyn i’r ysbyty a’i drin am haint.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd cathetreiddio Mr C wedi’i wneud yn briodol, ac nad oedd yn unol â safonau clinigol. Yn ogystal, nid oedd esboniad y Bwrdd Iechyd am yr hyn a ddigwyddodd yn cyd-fynd â sut y cofnodwyd digwyddiadau yng nghofnodion clinigol Mr C. Canfu’r ymchwiliad, ar sail tebygolrwydd, fod y methiannau hyn wedi cyflwyno risg uwch o haint a oedd yn debygol o fod wedi arwain at haint a derbyniad Mr C i’r ysbyty. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mr C. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr C am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad ac i rannu’r adroddiad gyda’r Nyrs Ardal a oedd yn ymwneud â chathetreiddio Mr C, i ystyried a myfyrio ar y canfyddiadau. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i gyflwyno proses archwilio/adolygu, os nad yw eisoes ar waith, i fonitro cydymffurfiaeth/cwblhau staff yn erbyn gofynion hyfforddi disgwyliedig, ac i rannu adroddiad yr ymchwiliad gyda Chyfarfod Ansawdd a Diogelwch y Bwrdd Iechyd i drafod a myfyrio ar y methiannau a nodwyd.