Cwynodd Mrs B am oedi parhaus gan y Cyngor wrth ymateb i atgyweiriadau yn ymwneud â lleithder cegin a gwteri cefn allanol, yn ogystal â chyfathrebu gwael parhaus yn ymwneud â’r materion hyn. Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i gŵyn Mrs B ynghylch a oedd y Cyngor wedi ymateb i’w hadroddiadau am leithder a llwydni cegin (a gwaith atgyweirio cysylltiedig), ac adroddiadau am ddŵr yn gorlifo o gwteri cefn allanol, ac a oedd wedi mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol yn briodol ac mewn modd amserol.
Cytunodd yr Ombwdsmon hefyd ar benderfyniad cynnar gyda’r Cyngor, o fewn pythefnos i’r ymchwiliad ddechrau, y byddai’r Cyngor yn comisiynu archwiliad lleithder annibynnol ar gyfer yr eiddo. Os byddai’r archwiliad yn argymell unrhyw atgyweiriadau, cytunodd y Cyngor y byddai’n darparu cynllun gweithredu/cynllun gwaith i’r Ombwdsmon (gan gynnwys dyddiadau ar gyfer cwblhau disgwyliedig, i fod yn unol ag amserlenni’r Cyngor ei hun ar gyfer gwaith brys neu arferol).
Cadarnhaodd y Cyngor ganlyniad yr archwiliad lleithder, cadarnhaodd y cynllun gwaith i’w gwblhau a darparodd ddyddiadau ar gyfer dechrau’r gwaith hwn, a oedd yn unol â’i bolisi arferol. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Cyngor wedi cydymffurfio â’r datrysiad cynnar.
Wrth ymateb i’r ymchwiliad, cydnabu’r Cyngor fethiannau yn ymwneud â’r oedi parhaus a brofodd Mrs B mewn perthynas ag atgyweiriadau cegin a gwteri dros nifer o flynyddoedd, yn ogystal â diffyg cyfathrebu priodol â hi. Achosodd y methiannau ofid ac anghyfleustra sylweddol i Mrs B a’i theulu, ac roedd hyn yn anghyfiawnder iddynt.
Darparodd y Cyngor dystiolaeth bod ei wasanaethau atgyweirio wedi bod yn destun adolygiad mewnol a bod newidiadau polisi, gweithdrefnol a system helaeth wedi digwydd, a byddent yn parhau i ddigwydd, o ganlyniad i’r adolygiad hwn, a fyddai’n mynd i’r afael â methiannau cyfathrebu ac oedi. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod y camau a gymerwyd gan y Cyngor o ganlyniad i’r adolygiad mewnol yn unol â’r mathau o argymhellion y byddem wedi’u gwneud yn seiliedig ar y methiannau a nodwyd yn yr achos hwn, ac na fyddai’n gymesur parhau â’r ymchwiliad ar y sail hon.
Fodd bynnag, cytunodd y Cyngor i gynnig ymddiheuriad i Mrs B ac i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch y rhesymau dros yr oedi, ac i nodi’r camau a gymerodd/y byddai’n eu cymryd i wella ei wasanaeth. Cytunodd hefyd i gynnig iawndal ariannol o £750 i Mrs B mewn perthynas â’r oedi. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod y camau hyn yn briodol.
Rhoddodd yr Ombwdsmon y gorau i’r ymchwiliad ar y sail hon.