Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs B, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morganwg (‘y Bwrdd Iechyd’) pan gafodd ei derbyn i Ysbyty’r Tywysog Siarl rhwng 22 a 26 Ebrill 2024. Ystyriodd yr ymchwiliad gŵyn Mrs C nad oedd Mrs B wedi derbyn safon resymol o ofal gan gynnwys monitro a meddyginiaeth annigonol ar gyfer poen a chynnwrf, oedi mewn asesiad meddygol ac atgyfeiriad i ward anaddas ar gyfer gofal diwedd oes. Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd gwynion Mrs C bod Mrs B wedi cael cefnogaeth i fwyta ac yfed drwy’r geg pan nad oedd yn ddiogel, a bod angen asesiad arni gan y Tîm Iaith a Lleferydd (‘SALT’), a bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi’i beryglu gan anghywirdebau ffeithiol.
Canfu’r ymchwiliad fod methiannau yn y gofal a ddarparwyd i Mrs B gan gynnwys mewn perthynas â monitro poen Mrs B, ac oedi wrth ddefnyddio gyrrwr chwistrell (dyfais a ddefnyddir i roi meddyginiaeth o dan y croen), rhoi meddyginiaeth ac wrth gyfeirio Mrs B i ward briodol. Cadarnhawyd y cwynion hyn.
Er y canfuwyd na chafodd yr atgyfeiriad at y SALT ei weithredu, canfuwyd nad achosodd hyn unrhyw niwed i Mrs B ac ni chadarnhawyd y gŵyn hon.
Yn olaf, nodwyd methiannau yn y ffordd y cafodd cwyn Mrs C ei thrin a chadarnhawyd hyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs C am y methiannau a nodwyd. Cytunodd hefyd i rannu canfyddiadau’r ymchwiliad gyda staff perthnasol ac atgoffa staff i ddefnyddio offer asesu poen priodol, i gwblhau cadw cofnodion cywir, a sicrhau bod camau amserol yn cael eu cymryd yn dilyn adolygiadau meddygol. Cytunodd hefyd i adolygu ei driniaeth o gŵyn Mrs C.