Dyddiad yr Adroddiad

03/06/2025

Achos yn Erbyn

Estyn

Pwnc

Rheoliad ac Arolygiad

Cyfeirnod Achos

202402334

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr W ynghylch a oedd ymchwiliad Estyn i’w g?yn yng Ngham 2 o’i weithdrefn gwynion wedi’i gwblhau’n rhesymol ac yn unol â’i “Weithdrefn Ymdrin â Chwynion 2021”.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd cwyn Mr W wedi’i hymchwilio yn unol â Gweithdrefn Ymdrin â Chwynion Estyn 2021 sy’n nodi y bydd Estyn yn ‘ymchwilio unwaith, ymchwilio’n dda’. Er bod yr ymateb Cam 2 a dderbyniodd Mr W yn gynhwysfawr mewn sawl ffordd, nid oedd yn cyd-fynd yn llawn â’r canllawiau perthnasol. Roedd hyn yn fethiant sy’n gyfystyr â chamweinyddu. Roedd yn anghyfiawnder i Mr W sydd wedi treulio amser a thrafferth yn dod â chwyn i’r Ombwdsmon. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr W.

Cytunodd Estyn i gysylltu â Mr W ac ymddiheuro am beidio â glynu wrth y canllawiau wrth ymchwilio i’w gŵyn, i sefydlu’r materion y mae’n eu hystyried yn rhai heb eu datrys a rhoi ymateb iddo yn unol â’r canllawiau perthnasol. Cytunodd hefyd i sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’i ganllawiau ar drin cwynion, gan gynnwys cofnodi unrhyw wyriadau o’r canllawiau ac, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny, i adolygu agweddau perthnasol ar ei ganllawiau ar drin cwynion.