Dyddiad yr Adroddiad

01/05/2025

Achos yn Erbyn

Tai Melin Cyf

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202408962

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Bu i Mr A gwyno bod Cartrefi Melin wedi methu ag atgyweirio ei eiddo, ac wedi methu ag ymateb i’w gŵyn na’i chydnabod.
Bu i’r Ombwdsmon gadarnhau bod y Gymdeithas Dai yn bwriadu cwblhau’r gwaith atgyweirio. Ar ôl ei gwblhau, dywedodd Mr A ei fod yn ceisio ad-daliad am y costau yr aeth iddynt. Cydnabu’r Ombwdsmon na chafodd y mater ei ystyried o dan drefn gwyno ffurfiol y Gymdeithas Dai. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas Dai gytuno i gysylltu â Mr A i nodi cwmpas ei gŵyn, ac i ymchwilio i’w bryderon ac ymateb iddynt o dan ei threfn gwyno cyn pen wyth wythnos. Cytunodd y Gymdeithas Dai i wneud y pethau hyn.